Pryd cyflym i ddau. Mae’n anodd curo cig oen fel hyn – dwi wrth fyd modd yn cnoi’r cig oddi wrth yr asgwrn fel dyn ogof! Mae’r finegr sieri yn torri drwy fraster y cig oen. Defnyddiwch finegr gwin coch neu ychydig o balsamic os does gennych chi ddim finegr sieri.
I fwydo 2.
Cynhwysion:
4 golwyth cig oen (lamb chops)
1 pupur coch, wedi’i sleisio
Hanner nionyn, wedi’i sleisio
Corbwmpen, wedi’i sleisio’n dennau
Tomatos bach, llond llaw wedi’i hanneri
Ewyn garlleg, wedi’i sleisio
Herbes de Provence, hanner lwy de
Basil ffres, llond llaw
Olew Olewydd
Finegr Sieri, llwy fwrdd
Dull:
- Rhowch lwy fwrdd o olew olewydd mewn sosban a choginiwch y nionyn, pupur coch, corbwmpen a’r garlleg ar wres canolig tan yn feddal; rhyw 7-10 munud. Ychwanegwch y herbes de provence a’r finegr sieri a coginiwch am funud arall cyn diffodd y gwres.
- Cynheswch badell ffrio i wres uchel. Rhowch ychydig halen a phupur ar y cig oen cyn eu coginio am tua 3 munud bob ochr i gael cig oen canolig, cogiwch am hirach i gael cig wedi’i goginio fwy. Tynnwch y cig allan o’r badell a rhowch ar blât cynnes i orffwys am ychydig o funudau.
- Ychwanegwch y dail basil ffres i mewn gyda’r cymysgedd pupur coch ar yr eiliad olaf cyn gweini gyda’r cig oen ac ychydig o datws newydd a brocoli.