Ar hyn o bryd dwi’n trio peidio bwyta gymaint o gig, felly dyma greu rysáit llysieuol blasus yr wythnos yma. Nes i ddefnyddio lentils gwyrdd gan fy mod i’n teimlo eu bod yn mynd yn llai stwnshlyd na rhai coch!
I fwydo 6:
Cynhwysion:
1 Foronen
1 Pupur Coch
1 Nionyn
1 Coesyn Seleri
1 Llwy fwrdd o Olew Olewydd
100g o domatos (baby plum am eu bod nhw’n felys)
2 dun 400g o domatos wedi eu torri’n fân
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
2 lwy fwrdd o oregano
200g o lentils gwyrdd
500ml o stoc llysiau
80ml o win coch (opsiynol)
Halen a Phupur
Dull:
- Torrwch y foronen, pupur coch, nionyn, garlleg a seleri’n ddarnau mân.
- Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a ffrïwch y llysiau am chwarter awr, tan eu bod yn dechrau meddalu.
- Torrwch y tomatos yn hanner a’u hychwanegu i’r sosban.
- Ychwanegwch y tuniau tomatos, y piwrî, oregano, lentils a stoc llysiau a’i gymysgu.
- Trowch y gwres i fyny yn uchel ac ychwanegu’r gwin coch, gadewch iddo ferwi am ryw 10 munud, cyn troi’r gwres i lawr. Ychwanegwch faint fynnoch o halen a phupur.
- Gadewch i’r cyfan fudferwi am ryw 45 munud.
- Gweinwch â phasta.
Gallwch baratoi’r ragu gwpl o ddiwrnodau o flaen llaw o y mynnwch, mae’r un mor flasus wedi ail dwymo.