Mae betys yn wych! Llawn ffibr a gwrthocsidyddion, dwi’n credu dylwn ni fwyta fwy ohonyn nhw. Mae’r paciau o fetys sydd wedi’i choginio’n barod yn rhad ac mor gyfleus.
Dwi’n defnyddio caws bwthyn yn y rysáit yma gan ei fod yn isel mewn calorïau, ond fysa caws gafr yn mynd yn wych gyda blas y betys.
I fwydo 4.
Cynhwysion;
500g mins porc
300g betys wedi’i coginio
Un afal bwyta fawr (tua 100g)
Llwy fwrdd o rhosmari ffres wedi’i dorri’n fân
4 lwy fwrdd o gaws bwthyn
Letys
Mwstard
4 rôl Grawn Cyflawn
Dull;
- Gratiwch yr afal a hanner (150g) o’r betys a ychwanegwch nhw i’r mins porc mewn powlen cymysgu gyda’r rhosmari ac ychydig o halen a phupur. Ffurfiwch i mewn i bedwar byrgyr.
- Holltwch y rholiau a rhowch i gynhesu yn y ffwrn – tua 140 gradd c.
- Cynheswch badell ffrio a choginiwch y byrgyrs ar wres canolig am tua 5 munud bob ochr mewn llwy fwrdd o olew.
- Mae’n amser rŵan i adeiladu’r bygyrs. Dechreuwch efo ychydig o fwstard ar hanner waelod y rholiau, yna sleisys o fetys (neu sleisys o fetys wedi’i biclo), letys, y byrgyr a llwy fwrdd o gaws bwthyn.