Dyma rysait (ddim yn siwr os alla i ei alw’n rysait am ei fod mor syml!) am salad nwdls syml sydd ddim yn cymryd llawer i’r baratoi a ddim yn golygu llawer o goginio! Mae’n cadw yn yr oergell am ychydig ddiwrnodau, ac yn gret ar gyfer bocs bwyd.
Digon i 4
Cynhwysion:
2 stecen (nes i ddefnyddio syrlwyn, ond gallwch ddefnyddio unrhyw doriad).
25g Cnau Cashew
1 llwy fwrdd o halen
1 llwy fwrdd o bupur
1 llwy fwrdd o olew sesame
1 Foronen wedi ei philio
1 Pupur Coch
1 Sibwn
90g o nwdls vermichelli
I wneud y dresin:
3 llwy fwrdd o damarind neu saws soy
1 llwy fwrdd o fêl
1 llwy fwrdd o saws pysgod
Sudd ½ leim
Dull:
- Paratowch y dresin trwy gymysgu’r tamarind (neu saws soy), mêl, saws pysgod a sudd leim.
- Sleisiwch y foronen, pupur a shibwn.
- Cynheswch y radell a ffrio’r ddwy stecen fel y dymunwch, dwi’n eu coginio am 3 munud pob ochr. Gadewch i’r ddwy stecen orffwys wedi i chi eu coginio.
- Rhowch y nwdls i socian mewn dŵr berwedig. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y paced, mae’r cyfarwyddiadau coginio yn wahanol yn ddibynnol ar frand y nwdls.
- Cynheswch badell ffrio ac ychwanegwch yr olew, halan a phupur. Wedi i’r badell gynhesu ychwanegwch y cnau cashew a’u ffrio tan eu bod yn dechrau brownio.
- Sleiswich y ddwy stecen a’u cymysgu gyda’r moron, pupur, sibwn, nwdls a’r cnau, a thaenwch y dresin dros y cyfan.