Dwi wrth fy modd efo bochau porc. Mae’n ddarn o’r anifail sydd ddim yn cael ei ddefnyddio digon aml ond hwn ydy un o’r darnau fwyaf blasus!
Dwi’n coginio’r bochau mewn caserol traddodiadol ond gallwch gael canlyniad yr un mor dda mewn slow cooker.
I fwydo 4 i 6 person.
Cynhwysion;
Chwech boch porc
Dwy foron
Un coesyn seleri
Un nionyn
Dwy ewin o arlleg
Llwy de o hadau ffenigl
Llwy fwrdd o bast tomato
Tua 100ml o laeth
Tun o domatos
500g Gnocchi
Dull;
- Cynheswch y ffwrn i 160 gradd.
- Torrwch y moron, seleri, nionyn a’r garlleg i mewn i ddarnau bach.
- Cynheswch bot caserol ar yr hob cyn sesno a ffrio’r bochau porc mewn llwy fwrdd o olew olewydd am tua 2 funud bob ochr.
- Gostyngwch y gwres a ffriwch y moron, seleri, nionyn, garlleg, a’r past tomato tan ei bod yn feddal – tua 8 munud. Ychwanegwch y llaeth a choginiwch tan fod rhan fwyaf o’r hylif wedi diflannu. Ychwanegwch y tomatos a swiliwch ychydig o ddŵr yn y tun i sicrhau nad ydych yn gwastraffu dim. Ychwanegwch y porc yn ôl i’r pot a dewch a phopeth fyny i fudferwi (simmer).
- Rhowch gaead ar y pot caserol a rhowch i goginio yn y ffwrn am tua dwy i dair awr.
- Ar ôl i’r porc goginio, defnyddiwch fforc i dorri’r bochau i mewn i ddarnau / stribedi bach.
I weini:
- Mewn sosban fawr, cynheswch dwy lwy fwrdd o’r ragu i bob person sy’n bwyta.
- Coginiwch y gnocchi mewn dŵr hallt berwedig yn ôl cyfarwyddiadau’r paced (mae’r gnocchi yn arnofio ar wyneb y dŵr yn arwydd da eu bod wedi coginio).
- Ychwanegwch y gnocchi i mewn i’r sosban ragu a chymysgwch popeth yn dda er mwyn i’r gnocchi amsugno’r holl flasau. Llaciwch y saws gyda dŵr coginio’r gnocchi os oes angen. Gweinwch yn syth.