Mae’r rysait yma’n gwneud digon i ddau.
Cynhwysion:
1 Pupur coch
1 Ewin o arlleg
1 Nionyn
1 Llwy de o deim
1 Llwy fwrdd o olew olewydd
5 Tomato
1 Tsili coch
100ml o Stoc Llysiau
Halen a Phupur
Dull:
- Cynheswch y popty i 160 gradd.
- Torrwch y pupur coch yn chwarteri, a chael gwared â’r hadau.
- Tynnwch y croen oddi ar y garlleg.
- Tynnwch y croen oddi ar y nionyn a’i dorri’n chwarteri.
- Rhowch y cyfan ar hambwrdd pobi gyda’r olew olewydd a’r teim a’u rhoi yn y popty am 15 munud.
- Tra mae’r rheini’n rhostio, torrwch y tomatos yn eu hanner.
- Torrwch y tsili yn ei hanner a chael gwared â’r hadau.
- Wedi i’r pupur, garlleg a’r nionyn fod yn y popty am 15 munud, ychwanegwch y tomatos a’r tsili, a’u rhostio am 15 munud arall.
- Pan mae’r llysiau yn barod, rhowch y cyfan mewn prosesydd bwyd (dwi’n hoffi rhoi’r cawl yn y nutribullet, er mwyn sicrhau ei fod yn hollol llyfn) ac ychwanegu’r stoc, os ydych chi’n teimlo bod y cawl yn rhy drwchus ychwanegwch fwy stoc.
- Ychwanegwch faint hoffech chi o halen a phupur.
Gallwch ei weini yn syth neu ei gadw yn yr oergell am ychydig ddyddiau.