Melanzane alla Parmigiana. “Aubergine Parmesan” yn Saesneg, neu “Eggplant Parm” fel bysech chi’n clywed yn cael ei ddeud gan deuluoedd Eidal-Americanaidd yr Unol Daleithiau.
Fe gefais hwn am y tro cyntaf yn Osteria yng Nghaernarfon ac mi oedd o’n wych.
Bwytwch ar ben ei hun efo salad gwyrdd ar yr ochr.
I fwydo 2;
Un wenynen (aubergine) mawr
Tun o domatos
Un ewyn o arlleg
Llond llaw o fasil ffres
Oregano
150g o mozzerella
Tua 30g o parmesan
Dull;
- Coginiwch y wenynen. Cynheswch ffwrn i 200gradd. Torrwch y wenynen i mewn i sleisys 1cm o drwch a rhowch ar hambwrdd pobi efo ychydig o olew olewydd, halen a phupur. Rhostiwch yn y ffwrn am tua 30 munud neu tan mae’r wenynen yn hollol feddal.
- Paratowch y saws tomato. Coginiwch 1 clof o arlleg wedi’i dorri’n fân mewn llwy de o olew olewydd. Ychwanegwch y tomatos, pinsiad o oregano sych, llond llaw o’r basil ffres wedi’i rhwygo a halen a phupur i flas. Coginiwch am tua 10 munud i leihau’r saws (reduce).
- Mewn dysgl sy’n addas i ffwrn, rhowch haenen denau o saws tomato, wedyn haenen o’r wenynen wedi’i goginio, wedyn darnau bach o mozzerella ac ychydig o barmesan wedi’i gratio. Ailadroddwch yr haenau tan fod y ddysgl yn llawn. Gorffennwch gyda haenen o saws tomato, mozzerella a parmesan.
- Rhowch mewn ffwrn 200gradd am 20-30 munud neu tan mae’r caws wedi toddi a chrasu ychydig. Tynnwch y ddysgl allan a gadewch i ymlacio am tua 30 munud cyn bwyta er mwyn i bopeth ddod at ei gilydd. Topiwch gyda dail bychain o fasil a mwynhewch.