Byrgyr Cig Oen efo Tzatziki

Newid bach i’r byrgyr cig eidion arferol. Gallwch newid y sbeis er mwyn creu blasau gwanhaol (er enghraifft, ychwanegwch ychydig o garam masala er mwyn cael byrgyr Indiaidd.)

I fwydo 4.

Cynhwysion;

500g mins cig oen

LLwy de o bowdr sinsr

2 lwy de – cumin

Llwy de o baprica

Llwy de o oregano sych

4 bara pitta

Dail salad cymysg

200g Iogwrt plaen (Llaeth y Llan)

1/2 Ciwcymbyr

Llond llaw o fintys

Sudd lemwn

Dull;

  1. Ychwanegwch y powdr sinsir, cumin, paprica a’r oregano i mewn gyda’r cig oen ynghyd ac ychydig o halen a phupur a chymysgwch y cyfan yn dda. Rhowch i un ochr.
  2. Gratiwch y ciwcymbr a gwasgwch allan cymaint o’r dŵr a phosib cyn ei hychwanegu i’r iogwrt gyda’r mintys a’r sudd lemwn. Mae’n bosib ychwanegu ychydig o saws mintys parod allan o jar i mewn i’r iogwrt a’r ciwcymbr os does gennych chi ddim mintys ffres ar gael.
  3. Ffurfiwch pedair byrgyr allan o’r cymysgedd cig oen a choginiwch mewn padell ffrio neu o dan gril poeth am tua 3-4 munud bob ochr.
  4. Tostiwch y bara pitta cyn ei haneri. Gweinwch y byrgyr gydag ychydig o ddail salad, tomato a digonedd o’r tzatziki.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s