Rhywbeth neis i drio tra bod tatws newydd a phys ffres yn eu tymor.
Gallwch ddefnyddio pys wedi dadrewi yn y rysáit hon – fyswn i’n berwi nhw am funud gyda’r tatws.
I fwydo 2.
Cynhwysion;
Tua 750g o datws newydd
Tua 250g o bys ffres wedi’i podio
2 bot o ferwr salad
3 shibwn
Olew had rêp
Lemwn
Dull;
- Coginiwch y tatws newydd mewn dŵr berwedig wedi’u halltu.
- Ychwanegwch tua llwy fwrdd o’r olew had rêp, sudd y lemwn ac ychydig o halen a phupur tra bod y tatws dal yn gynnes. Rhowch y tatws i un ochr am 5-10 munud i oeri ychydig.
- Torrwch y shibwns yn ddarnau tenau a thorrwch y berwr i ffwrdd o’u sylfaen cyn eu hychwanegu at ychwanegu i’r tatws gyda’r pys ffres. Cymysgwch y cyfan yn dda a gweinwch.