Cyw Iâr efo Stiw Chickpea a Tomato

Pryd cyflym, ysgafn a ffres sy’n dda beth bynnag y tywydd. Mae hwn mond yn defnyddio un badell ffrio ac yn barod mewn tua 20 munud!

Mae’n bosib addasu’r rysáit drwy ychwanegu past cyri ac ychydig o laeth coconyt i greu cyri sydyn.

I fwydo 2.

Cynhwysion;

Pedair clun cyw iâr – efo’r croen ond heb yr asgwrn

1 tun 400g o chickpeas (heb y sudd)

Tua 300g o domatos ffres

Winiwn coch

Tua 200g o sbigoglys (spinach)

1 ewyn garlleg

Hanner lwy de o baprica

Hanner lwy de o cumin

Olew Olewydd

Dull;

  1. Cynheswch badell ffrio i wres canolig uchel; ychwanegwch dwy lwy de o olew a choginiwch y  cyw iâr ar ochr y croen am 6 – 8 munud nes mae’r croen yn edrych yn grisp – coginiwch  ar yr ochr arall am ryw 6 munud. Rhowch y cyw iâr ar blât i ymlacio tra’ch bod yn paratoi’r stiw.
  2. Torrwch y winiwn a’r garlleg yn denau cyn eu hychwanegu i’r badell ffrio gyda’r paprica a’r cumin. – coginiwch am ryw 2 funud.
  3. Torrwch y tomatos i mewn i ddarnau bach cyn eu hychwanegu i’r badell ynghyd a’r chickpeas – coginiwch am ryw 2 funud nes mae’r tomatos yn dechrau torri lawr.
  4. Ychwanegwch y sbigoglys a tua 300ml o ddŵr a choginiwch am tua 3 munud. Ychwanegwch halen a phupur i flas. Os oes yna unrhyw sudd wedi ymddangos wrth i’r cig ymlacio, ychwanegwch hwn i’r stiw.
  5. Torrwch y cyw iâr i mewn i stribedi tew a gweinwch gyda’r stiw.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s