Dyma rysáit perffaith ar gyfer swper yn ystod yr wythnos. Os nad ydych chi ffansi salad, byddai’n gweithio’n grêt gyda reis neu nwdls hefyd!
Cynhwysion:
3 llwy fwrdd o saws soy
2 lwy fwrdd o fêl
Darn 1cm o sinsir ffres
Sbrig o deim
½ bresychen goch fach
1 Moronen fawr
1 Shibwn spring onion
1 tsili coch
10 o ddail mintys
2 glun cyw iâr mawr, neu 4 o rai bach
Sudd ½ leim
100g o ffa Edemame
Halen
Pupur
1 llwy fwrdd o Olew Olewydd
Dull:
- Gratiwch y sinsir yn fân cyn ei gymysgu mewn powlen â’r saws soy a’r mêl. Ychwanegwch ddail y sbrig o deim.
- Rhowch y cyw iâr ar hambwrdd bobi, a thywallt y saws dros ben y cyw iâr. Gorchuddiwch â cling film a’i roi yn yr oergell am o leiaf dwy awr.
- Cynheswch y popty i 190gradd. Tynnwch y cyw iâr o’r oergell a thaenu unrhyw saws sydd ar waelod yr hambwrdd dros y cyw iâr, a’i roi yn y popty am 35 munud.
- Gratiwch y fresychen, a’r foronen a sleisiwch y tsili a’r shibwn. Torrwch y mintys yn fân. Cymysgwch y cyfan mewn powlen ac ychwanegwch y ffa edamame, olew olewydd a faint fynnwch o halen a phupur.
- Cyn gweini arllwyswch y sudd leim ar y cyfan.