Pryd ysgafn a lliwgar i’w baratoi pan mae’r haul yn tywynnu! Gallwch newid y cig os hoffwch chi – mae’n wych gyda chyw iâr, cig eidion, cig oen , porc neu hyd yn oed eog!
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i driog pomgranad; defnyddiwch ychydig o saws tamarind neu saws hoisin yn ei le.
Cadwch y braster sy’n dod allan o’r hwyaden ar gyfer eich tatws rhôst!
I fwydo 2.
Cynhwysion;
2 frest hwyaden
Hadau pomgranad
100g peanuts
8 rhuddygl (radish) wedi’i sleisio’n dennau
Tsili coch wedi’i dorri’n fân
Llond llaw o ddail coriander
2 letys “baby gem”
DRESIN
Llwy fwrdd o driog pomgranad
Sudd lemwn
Llwy fwrdd o olew olewydd “extra virgin”
Dull;
- Tostiwch y peanuts yn y ffwrn am tua 10 munud ar 180 gradd gan gadw llygad arnyn nhw rhag iddyn nhw losgi. Gadewch iddynt oeri ychydig cyn eu malu gyda morter a phestl.
- Sgoriwch groen y brestiau hwyaden mewn patrwm croes. Rhowch y brestiau mewn padell ffrio oer, sych, ar ochr y croen – codwch y gwres yn raddol i wres canolig a choginiwch am 8-10 munud neu tan mae’r croen yn edrych yn grisp. Coginiwch ar yr ochr arall am 2-3 munud a gadewch iddynt sefyll am ychydig.
- Rhowch y triog pomgranad mewn powlen ac ychwanegwch sudd y lemwn a llwy de o’r olew olewydd.
- Sleisiwch yr hwyaden yn stribedi bach (dylai’r cig fod ychydig yn binc) cyn eu hychwanegu i’r dresin gyda’r rhuddygl, y tsili a rhan fwyaf o’r hadau pomgranad a’r coriander. Cymysgwch y cyfan yn dda.
- Torrwch dail y letys i ffwrdd a rhowch ar ddysgl addas. Llenwch bob deilen gyda’r salad hwyaden a thopiwch gyda’r llwch peanut a gweddill y tsili, coriander a’r hadau pomgranad.