Tsili Lentils Coch

Mae’r tywydd yn oeri’r wythnos yma, felly dyma rysáit i gynhesu eich boliau!!

Bwydo 6

Cynhwysion

1 nionyn

1 pupur coch

1 pupur gwyrdd

4 ewin garlleg

2 foronen

2 tsili coch

1 llwy fwrdd o baprica

1 llwy fwrdd o goriander

1 llwy fwrdd o gwmin

1 llwy fwrdd o puree tomato

300g o lentils coch

1 tun o domatos wedi’u torri

Litr o stoc llysiau

1 tun o ffa ffrenig (kidney beans)

Halen a Phupur

Llwy de o fêl

Llwy fwrdd o olew olewydd

Dull

  1. Torrwch y nionyn, pupur gwyrdd, pupur coch, garlleg, tsili a’r moron yn ddarnau mân, a’u ffrio yn yr olew olewydd am dri munud.
  2. Ychwanegwch y cwmin, puree tomato, paprica a choriander a’u ffrio am ddau funud arall.
  3. Ychwanegwch y lentils, tin tomatos a litr o stoc llysiau a’i gymysgu. Gadewch iddo fudferwi am 20 munud.
  4. Ychwanegwch y ffa ffrenig. Gwagiwch y dŵr o’r tun cyn ychwanegu! Coginiwch am 10 munud arall.
  5. Ychwanegwch y llwy de o fêl a chymysgu.
  6. Blaswch, ac ychwanegwch halen a phupur os oes angen.
  7. Gweinwch â thysen felys neu reis brown, hufen sur a leim.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s