Rydym yn dod i ddiwedd y tymor sbrowts ac felly dyma rysáit syml sy’n dod a’r gorau allan o’r llysieuyn gwych yma sy’n yn cael ei bardduo mor aml. Gwych ar gyfer tapas syml efo wyau ffres wedi’i ffrio neu fel rhan o’ch cinio rhost.
I fwydo 2
Cynhwysion;
500g o sbrowts
100g o chorizo wedi’i deisio
Olew rapeseed / olew olewydd
Llwy de o baprika
Lemon
Halen a phupur
2 wy ffres
Dull;
- Cynheswch y ffwrn i 210 gradd.
- Piliwch a hanerwch y sbrowts a rhowch cyfan mewn tin rhostio gyda’r chorizo, paprika, llwy fwrdd o’r olew, ac ychydig o halen a phupur.
- Rhostiwch y cyfan am 15 -20 munud tan fod y sbrowts yn euraidd a’r chorizo yn grisp.
- Gratiwch croen y lemon a gwasgwch y sudd dros ben y sbrowts.
- Gweinwch gydag wyau wedi’u ffrio neu wedi’u potsio.