Dwi o hyd yn chwilio am snacs iach, ond yn anffodus mae’r snacs iach sydd yn cael eu gwerthu yn y siopa yn dueddol o fod yn ofnadwy o ddrud. Felly’r wythnos yma es i ati i drio creu snac blasus a melys fy hun Dyma ganlyniad fy arbrofi!
Cynhwysion:
200g o dates (heb y garreg)
100g o gnau cashew
50g o gnau collen (hazelnut)
2 lwy fwrdd o bowdr cacao
50g o siocled du
Dull:
- Rhowch y dates ac un llwy fwrdd o ddŵr berwedig mewn cymysgydd (blender) a’u cymysgu. Tynnwch y dates allan o’r cymysgydd a’u cadw i un ochr tan wedyn.
- Rhowch y cnau a’r cacao yn y cymysgydd a’u cymysgu. Ychwanegwch y dates a chymysgwch eto. Rhowch y gymysgedd mewn tin pobi a’i roi yn yr oergell am oleiaf hanner awr.
- Tynnwch o’r oergell a thorri’r cymysgedd yn sgwariau bychain.
- Toddwch y siocled du mewn powlen a throchwch un ochr o’r sgwariau bychain yn y siocled. Rhowch y sgwariau yn ôl yn yr oergell i oeri am chwarter awr.
- Bydd angen cadw’r sgwariau mewn man oer.