Crempogau sbigoglys gwyrdd wedi’i llenwi gyda chennin a ricotta mewn saws tomato sbeisi. Gan fod hi’n ddiwrnod crempog fory ac yn Ddydd Gŵyl Dewi dydd Mercher oni’n awyddus i ddod fyny efo rysáit oedd yn addas i’r ddau achlysur.
Pryd llysieuol sydd ychydig yn wahanol ond yn bleserus iawn i fwyta.
I fwydo 4
Cynhwysion;
Saws Tomato
1 tun o domatos
2 glof o arlleg
Hanner tsili coch
Olew olewydd
Crempogau
2 genhinen fawr
Teim ffres
Nytmeg
Menyn
1 twb o ricotta (250g)
50g o barmesan
Briwsion bara
Mwg o flawd plaen
Mwg o laeth
Llond llaw o sbigoglys ffres
2 wy
Dull;
- Dechreuwch drwy baratoi’r saws tomato. Torrwch y garlleg a’r tsili yn ddarnau bach a ffriwch mewn llwy fwrdd o olew olewydd mewn sosban ar wres canolig. Pan mae’r garlleg yn dechrau troi’n frown (ar ôl tua munud), ychwanegwch y tun tomatos. Coginiwch ar wres gweddol isel am ryw 20 munud. Cofiwch ychwanegu halen a phupur. Ar ôl 20 munud, rhowch y saws mewn tun pobi sydd efo ochrau uchel.
- Ewch ymlaen i baratoi’r cennin. Torrwch y cennin yn gylchoedd tua 1/2 cm o drwch. Cynheswch sosban ar wres canolig isel cyn ychwanegu llwy de o fenyn. Unwaith mae’r menyn wedi toddi ychwanegwch y cennin a llwy fwrdd o ddŵr, ychydig o halen a phupur a tua llwy de o ddail teim ffres. Coginiwch am ryw 20-30 munud neu tan mae’r cennin yn feddal. Gadewch iddo oeri am ychydig.
- Paratowch y crempogau sbigoglys drwy roi llond mwg o flawd plaen, y sbigoglys, y llaeth, yr wyau a phinsiad o halen mewn cymysgydd (blender) a’u cymysgu’n dda. Rydych chi eisiau i’r cymysgedd fod yn debyg i drwch hufen sengl felly ychwanegwch ddŵr os yw’r gymysgedd yn rhy drwchus, neu flawd os nad yw’n ddigon trwchus. Dylai’r cymysgedd yma fod yn ddigon ar gyfer 6 crempog fawr.
- Coginiwch y crempogau mewn padell ffrio, coginiwch fesul un mewn ychydig o fenyn neu olew am tua 1 munud bob ochr.
- Cymysgwch y cennin, y ricotta, pinsiad o nytmeg, ac ychydig o halen a phupur.
- Cynheswch y ffwrn i 200 gradd.
- Llenwch y crempogau gyda’r cymysgedd cennin cyn eu rholio. Rhowch y “cannelloni” yn y tun pobi ar ben y saws tomato. Topiwch y cyfan gyda briwsion bara gyda’r parmesan. Coginiwch am 30 munud.
- Gweinwch gyda salad gwyrdd neu ychydig o kale.