Cyri Blodfresych a Ffacbys!!

Gan bod storm Doris ar y ffordd roeddwn i’n meddwl y byddai comfort food yn plesio!  Mae’r rysait yma’n syml, ac yn un y gallwch chi ei baratoi ar frys.

Digon i 2- 4

Cynhwysion:

1 llwy fwrdd o olew olewydd

4 llwy fwrdd o bast cyri coch (mae un Rogan Josh yn gweithio’n dda).

1 nionyn

1 tsili gwyrdd

1 llwy de o sinsir wedi’i gratio

2 glof o arlleg

1 llwy de o turmeric

1 blodfresych

1 tun o ffacbys chickpeas

1 tun o lefrith cneuen goco

1 tun o domatos wedi eu torri’n fan

Dull:

  1. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban fawr. Ychwanegwch y past cyri i’r sosban.
  2. Torrwch y garlleg, tsili, sinsir a’r nionyn yn fân a’u rhoi yn y sosban.       Coginiwch am bum munud.
  3. Torrwch y blodfresych yn ddarnau.
  4. Rhowch y blodfresych a’r ffacbys chickpeas yn y sosban â gweddill y cynhwysion.
  5. Ychwanegwch y llefrith cneuen goco a’r tun tomatos i’r sosban.       Cymysgwch, a throwch y gwres i fyny.
  6. Unwaith mae’r cynhwysion yn berwi trowch y gwres lawr a choginio’r cyri am 15 munud ar wres canolig. 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s