Mae’r pryd yma’n flasus a hawdd i’w baratoi. Mae hi werth gwneud y Chapatis eich hunain gan ei bod nhw’n mor hawdd i’w paratoi. Os nad oes gennych chi amser i’w gwneud nhw, byddai’n gweithio â bara pitta neu wraps. Mae’r bryd yma’n gwneud digon i 2.
Cynhwysion:
2 Frest cyw iâr
1 llwy fwrdd o olew olewydd
2 lwy fwrdd o bast madras
¼ fresychen goch
Llond llaw o ddail mint
2 lwy fwrdd o iogwrt naturiol
Y chapatis:
1 llwy de o halen
1 llwy fwrdd o olew
60ml o ddŵr cynnes
100 gram o flawd gram (ar gael yn y mwyafrif o archfarchnadoedd).
Dull:
- Torrwch y cyw iâr yn ddarnau.
- Rhowch y past madras mewn powlen, ac ychwanegu’r cyw iâr a chymysgu. Rhowch yn yr oergell tra’n paratoi gweddill y pryd.
- Torrwch y bresych yn stribedi tenau.
- Rhowch yr iogwrt a’r daily mint (wedi eu torri’n fan) mewn powlen cyn ychwanegu’r bresych a chymysgu. Rhowch yn yr oergell.
- Cynheswch badell ar wres canolig, a ffriwch y cyw iar tan fod bob darn wedi coginio. Os nad ydych chi’n gwneud y chapatis eich hunain, gweiniwch.
Os am wneud chapatis:
Digon ar gyfer 4 chapati.
- Rhowch y blawd gram mewn powlen. Mae hi werth rhoi’r blawd trwy ogor fan hyn.
- Ychwanegwch yr halen.
- Ychwanegwch yr olew a’r dŵr at y gymysgedd yn raddol a defnyddiwch eich dwylo i gymysgu’r blawd a’r dŵr tan ei fod fel toes. Os ydych chi’n gweld y gymysgedd yn mynd yn rhy wlyb gallwch ychwanegu mwy o flawd.
- Rhannwch y gymysgedd yn 4 darn, a’u siapio mewn i bedair pêl. Taenwch haen o flawd ar y bwrdd cyn dechrau rowlio’r chapatis. Mae angen sicrhau bod digon o flawd ar y rholiwr a’r bwrdd gan fod cymysgedd y chapatis yn eithaf sdici!
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn rholio’r chapatis yn denau.
- Cynheswch badell dros wres uchel. Does dim angen olew yn y badell. Rhowch y chapatis yn y badell, un ar y tro. Maen nhw angen coginio am ryw funud a hanner pob ochr.