Ar wyliau diweddar i Elounda ar ynys Creta, un o’r prydau gorau gefais i oedd barbeciw ar draeth anhygoel ddim yn bell o ynys Spinalonga. Roedd y bwyd yn syml; porc efo oregano a salad tomato. Dyma fersiwn Llawn Daioni o’r pryd bythgofiadwy yna yn edrych allan dros fôr las y Agean.
Dwi’n defnyddio feta i sesno’r bwyd yn hytrach na’i fwyta fel cynhwysyn yn y salad. Er mwyn cyflawni hyn bydd rhaid rhewi’r feta yn gyntaf – mae hyn yn galluogi chi ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i parmesan drwy ei gratio’n fân sydd dal i roi blas hallt y feta heb ddefnyddio llawr o’r caws ei hun gan arbed dipyn o galorïau.
Cynhwysion, digon i 2
Golwyth Porc – 2 olwyth tua 2cm o drwch.
Olew Olewydd Extra Virgin dau llwy fwrdd
Oregano Sych
Tomatos – tua 300g
Feta – wedi’i rhewi’n galed.
Dail cymysg – dau lond llaw
Halen a Phupur
Dull;
- Rhowch y porc i farineiddio mewn ychydig o olew olewydd, llwy de o’r oregano sych, a phinsiad o halen a phupur. Cadwch hwn yn y ffrij am ddwy awr os yn bosib.
- Sleisiwch y tomatos a ychwanegwch binsiad bach o halen a phinsiad mawr o oregano sych.
- Cynheswch badell ffrio / padell gril i wres canolig uchel a choginiwch y porc am 3-4 munud bob ochr. Gadewch i’r cig ymlacio am ychydig o funudau cyn ei weini. Dwi fel arfer yn tynnu’n rhan fwyaf o’r braster i ffwrdd ar ôl coginio gan fod o ddim yn bleserus iawn i fwyta.
- Gweinwch y cyfan gydag ychydig o ddail cymysg gwyrdd a gratiwch y feta gyda gratiwr mân ar ben y salad tomato.
One Comment Add yours