Mae fajitas cartref mor hawdd i’w paratoi does dim angen prynu paced o’r siop.
Digon i 4
Cynhwysion;
4 brest cyw iâr wedi eu torri yn stribedi
1 llwy de o cwmin
1 llwy de o bupur cayenne
½ llwy de o halen
½ llwy de o bupur
1 llwy de o bowdr garlleg
1 llwy de o baprica
1 Pupur (coch, gwyrdd neu felyn yn iawn)
1 tsili coch
1 nionyn coch
1 llwy fwrdd o Olew Olewydd ac ychydig mwy er mwyn ffrio’r Cyw Iâr
4 Tortilla mawr
100g o gaws
Iogwrt Naturiol
Guacamole
Salsa
Dull;
- I wneud y marinâd fajita cymysgwch y cwmin, pupur cayenne, halen, pupur, powdr garlleg a phaprica mewn powlen.
- Tynnwch yr hadau allan o’r pupur a’i sleisio, sleisiwch y tsili a’r nionyn coch.
- Cynheswch lwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio neu griddle a ffriwch y stribedi cyw iâr, pupur, tsili a nionyn coch am ryw 8 munud (neu tan mae’r cyw iâr wedi ei goginio drwyddo).
- Cynheswch y tortillas yn y meicrodon am ryw 30 eiliad.
- Gweinwch ag iogwrt naturiol, guacamole, salsa â chaws.