Cyw Iâr, Salad Moron, a Tzatziki

Dwi wrth fy modd efo’r pryd yma. Dwi wastad yn ffafrio cluniau cyw iâr (chicken thighs) dros frest – mwy o flas, mwy “succulent” a rhatach. Mae’r salad moron yn un o’r salads prin sy’n elwa o gael amser i’r blasau gymysgu.

Digon i 4.

Cynhwysion;

8 Clun Cyw Iâr gyda’r asgwrn a’r croen

3 sbrig o Rosmari ffres

Llwy de o Oregano sych

Salad;

Tua 400g o Foron wedi’u gratio

4 Spring Onion wedi sleisio’n fân

Llond llaw o Radish wedi’u sleisio

Llwy fwrdd o Finegr Gwin Gwyn / Finegr Seidr

Pinsiad o bupur Cayenne (opsiynnol)

200g o Salad “deiliog” gwyrdd (sbigoglys, rocket, baby chard, lambs lettuce ayyb)

Tzatziki;

8 lwy fwrdd o Iogwrt plaen

Mintys – llond llaw o fintys ffres wedi’i dorri’n fân neu llwy de o fintys sych

Pinsiad o oregano sych

1/2 Ciwcymbr

Halen a Phupur i flas

4 Flatbread/ Pitta

Dull;

  1. Cynheswch y ffwrn i 200 gradd. Rhowch halen a phupur ar y cyw iâr a rhostiwch gyda’r rhosmari a’r oregano am tua 45 munud. Rydych chi eisiau i groen y cyw iâr fod yn crispi. Cadwch unrhyw sudd/braster sydd yn y tin rhostio wedi i’r cyw iâr orffen coginio.
  2. Tra bod y cyw iâr yn coginio, paratowch y salad moron; cymysgwch y moron, spring onions, radish a’r finegr. Ychwanegwch halen a phupur yn ogystal â phinsiad o bupur cayenne os dymunwch. Ydych chi’n cofio’r jiws cyw iâr oedd ar ôl yn y tin rhostio? Ychwanegwch lwy fwrdd o hwn at y moron.
  3. I baratoi’r tzatziki, gratiwch y ciwcymbr a’i roi mewn colandr. Gwasgwch cymaint o ddŵr a phoisb o’r ciwcymbr. Ychwanegwch y ciwcymbr a’r mintys at yr iogwrt ac ychwanegwch halen a phupur os dymunwch.
  4. Gweinwch bopeth gyda’r salad gwyrdd ac ychydig o flatbreads neu pittas.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s