Mae’r crempogau yma’n hawdd i’w gwneud ac yn grêt ar gyfer brecwast blasus neu fel pwdin.
Mae’r rysáit yma’n ddigon ar gyfer 6 – 8 crempog.
Cynhwysion
150g o flawd buckwheat
1 llwy de o bowdr pobi
Pinsiad o halen
1 ŵy
150g o lus
½ llwy de o ecstract fanila
250ml o lefrith cyflawn organig
Maple Syrup
Menyn
Dull
- Cymysgwch yr halen, y blawd buckwheat, a’r powdr pobi mewn powlen.
- Ychwanegwch y llefrith, yr ŵy a’r ecstract fanila at y cynhwysion sych a’u curo gyda chwisg.
- Ychwanegwch ddwy lond llaw o lus i’r cymysgedd.
- Taenwch fenyn ar hyd y badell, a’i rhoi ar wres canolig.
- Arllwyswch y cymysgedd i’r badell, dylai’r cymysgedd roi o leiaf 6 crempog i chi. ‘Dw i’n tueddu i wneud crempogau sy’n rhyw 12cm o hyd, a 1cm o drwch.
- Ffriwch y grempog am ryw funud a hanner pob ochr.
- Gweinwch â maple syrup a gweddill y llus.
Mae’r gymysgedd yn cadw yn yr oergell am hyd at dri diwrnod.