Uuuuuuuuuuuwwwwwwwd!! Fel blanced gynnes yn y bore! Mae’r cymysgedd afalau yn ychwanegu ychydig o foethusrwydd i’r pryd – mae yna wastad groeso i unrhyw beth moethus ar unrhyw fore!
Mae hadau chia yn cynnwys dipyn o Omega 3 sy’n wych i’ch corff mewn amryw o ffyrdd. Gallwch ddefnyddio ceirch yn unig os hoffwch chi.
Mae’r rysáit hon hefyd yn dda gyda pheren yn hytrach nag afal.
Diogon i 2.
Cynhwysion;
80g o Geirch Organig (dwi jysd yn rhoi llond llaw i bob person)
2 lwy bwdin o Hadau Chia
300ml Llaeth Cyflawn Organig / Llaeth Almon / Dŵr
1 llwy de o Olew Coco / Menyn Organig heb halen
1 Afal bwyta mawr wedi’i bilio a’i sleisio.
1 llwy bwdin o Maple Syrup
Halen Môn (opsiynnol)
Dull;
- Paratowch yr uwd. Rhowch y ceirch, hadau chia, a’r llaeth neu dwr mewn sosban a choginiwch am 5 i 8 munud wrth droi’n aml gyda llwy bren tan fod yr uwd yn cyrraedd tewder rydych yn hapus gyda.
- I baratoi’r afal; cynheswch badell ffrio i dymheredd canolig uchel a ffriwch yr afal yn yr olew coco / menyn am ryw 2 funud. Ychwanegwch yr maple syrup ynghyd a sblasiad o ddŵr a choginiwch tan fod popeth wedi yn sgleinio ac yn weddol drwchus. Dwi’n hoffi ychwanegu pinsiad bach o halen da i mewn gyda’r afalau i gael blas “salted caramel” neis.
- Rhowch yr uwd mewn powlenni a rhannwch y cymysgedd afal yn deg!
Neis gyda espresso cryf yn y bore!