Salad cynnes syml yn cynnwys rhai o fy hoff gynhwysion. Gallwch ddefnyddio unrhyw fath o ham, hyd yn oed parma ham. Os hoffech gadw popeth yn llysieuol gallwch hepgor yr ham yn gyfan gwbl.
Digon i un.
Cynhwysion;
Ham hock wedi ei goginio – (tua 80g ond peidiwch â phoeni’n ormodol!)
Ffa Gwyrdd – llond llaw
Asbaragws – 4 picell
Stilton – 20g wedi’i grymblo (Unrhyw gaws glas yn iawn)
Dil – gwerth llwy fwrdd wedi’i dorri
1 ŵy
Dresin;
Llwy de o Olew Rapeseed / Olew Olewydd
2 llwy de o Finegr Seidr / sudd Lemon
Hanner llwy de o Fwstard (Dijon neu Wholegrain)
Halen a Phupur
Dull;
- Coginiwch yr ŵy mewn dŵr berw am 5-6 munud. Yna rhowch yr wy dan dap dŵr oer am ychydig tan ei fod wedi oeri ddigon i blicio’r plisgyn. Rhowch yr ŵy i un ochr.
- Cymysgwch gynhwysion y dresin mewn powlen fawr.
- Berwch y ffa gwyrdd a’r asbaragws am 3 munud. Draeniwch y llysiau cyn eu hychwanegu i’r dresin.
- Ychwanegwch yr ham, stilton, a’r dil i’r salad cyn cymysgu popeth yn dda.
- Gweinwch gyda’r ŵy a mwynhewch!