Cyw Iar wedi ei rostio â thatws, nionyn coch a tomato

Mae’r pryd yma’n grêt ar gyfer swper hawdd yn ystod yr wythnos. Mae o’n un o fy hoff brydau i.

Cynhwysion:

4 Supreme Cyw iâr

2 nionyn coch

750g o datws newydd/neu datws bach

250g o domatos bach

2 lwy fwrdd o olew olewydd

1 llwy de o sage (sych neud ffres)

1 llwy de o Halen Môn

1 llwy de o bupur

Dull:

  1. Cynheswch y popty i 200 gradd.
  2. Tynnwch y croen oddi ar y nionod a’u torri yn chwarteri.
  3. Rhowch y cyw iâr, tatws, nionod a’r tomatos ar yr hambwrdd pobi (baking tray) cyn arllwys yr olew olewydd dros y cynhwysion a chymysgu.
  4. Gwasgarwch y sage, pupur a’r halen ar bopeth.
  5. Rhowch yr hambwrdd yn y popty a’i goginio am 50 munud.

 

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s