Bara Banana

Mae hi wedi cymryd tipyn o amser i mi berffeithio’r rysáit yma, y tric yw defnyddio bananas aeddfed – rhai sydd bron iawn yn ddu. Dwi’n hoffi’r bara gyda “Jam” Banana a Choco a Chompot Afal (gweler isod)

Cynhwysion;

230g Blawd Self Raising organig

30g Ceirch

1 pot o Laeth Enwyn Buttermilk

2 lwy fwrdd o Olew Rapeseed ac ychydig er mwyn ei daenu dros y tun

2 wy mawr

3 Banana aeddfed

2 lwy fwrdd o Fêl/Maple syrup

Pinsiad o Halen

Llwy de o sinamon (opsiynol)

Dull;

  1. Cynheswch y popty i 180 gradd/gas mark 4.
  2. Taenwch haen denau o olew ar dun litr cyn ei leinio â phapur graseproof.
  3. Malwch y bananas (heb y croen!), a’u cymysgu â’r mêl/ maple syrup, y sinamon a’r halen mewn powlen fawr.Ychwanegwch yr wyau, fesul un, a’u cymysgu â gweddill y gymysgedd.
  4. Ychwanegwch y buttermilk a chymysgu.
  5. Ychwanegwch y blawd a’r ceirch a chymysgu.
  6. Rhowch y gymysgedd yn y tun a’i roi yn y popty am 40 i 60 munud. Ar ôl 40 munud, rhowch gyllell neu skewer glan yng nghanol y bara – os yw’r gyllell yn dod allan yn lan, mae’r gacen yn barod, os ddim bydd angen rhoi’r bara yn nol yn y popty ac ail adrodd y broses yma pob rhyw 5 munud.
  7. Pan mae’r bara yn barod, tynnwch ef allan o’r popty a’i adael i oeri ar cooling rack.
  8. Mae’r bara yn para ryw 7 diwrnod mewn bocs addas.

 

Jam Banana a Cneuen Goco a Chompot Afal ac Eirin

DSC_0304[1]

 

Jam Banana a Cneuen Goco

Cynhwysion;

2 Fanana aeddfed

Llwy de o Olew Cneuen Goco (coconut oil)

4 llwy bwdin o “Dessicated Coconut”

Llwy bwdin o Fêl / Maple Syrup / Agave

Pinsiad bach iawn o halen môr.

Dull;

  1. Cynheswch sosban neu badell ffrio (non-stick os yn bosib) i wres canolig ac ychwanegwch yr olew coco.
  2. Pliciwch a sleisiwch y bananas cyn eu hychwanegu i’r badell am 3-4 munud.
  3. Ychwanegwch y “Dessicated Coconut” a’r halen a pharhau i goginio am ryw 2 funud ychwanegol, neu tan fo’r bananas wedi troi’n buree garw yn y badell.
  4. Tynnwch y badell oddi ar y gwres ac ychwanegwch y Mêl / Maple Syrup / Agave.
  5. Rhowch gynnwys y badell mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu.
  6. Rhowch y cyfan mewn jar a’i gadw yn yr oergell, gorffennwch y cyfan o fewn wythnos.

 

Compot Afal ac Eirin

Cynhwysion;

2 Afal wedi ei sleisio, (dim angen pilio’r croen)

2 Eirin aeddfed, wedi’u sleisio.

Mêl / Maple Syrup / Agave – gallwch ychwanegu faint fynnoch, yn ddibynnol ar ba mor felys hoffech y compot!

Pinsiad bach iawn o halen môr.

Tua 100ml o ddŵr

Dull;

  1. Rhowch bopeth mewn sosban a’i stiwio am 5 i 10 munud, tan fo’r afalau’n feddal.
  2. Rhowch gynnwys y sosban mewn prosesydd bwyd er mwyn creu saws llyfn a thrwchus.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s