Madarch ar Dost â Wy

Brecwast neu ginio syml ond maethlon. Mae madarch yn isel mewn calorïau, yn isel mewn colesterol, ac yn isel mewn braster. Dwi wedi ychwanegu wy wedi’i botsio i’r pryd er mwyn cael mwy o brotein. Mae wyau yn un o’r ffynonellau protein rhataf a dwi wrth fy modd efo nhw. Byddwn i’n awgrymu i chi brynu rhai o’r ansawdd gorau posib; wyau buarth o leiaf ac organig os yn bosib – yn wahanol i lot o fwydydd organig does dim llawer o wahaniaeth pris.

Diogon i un.

Cynhwysion;

Tua 150g o Fadarch (cymysg os yn bosib ond peidiwch poeni os ddim!)

Persli / Taragon – wedi ei dorri’n fân

Un ewin garlleg – wedi’i sleiso’n fân

Menyn

1 Wy Ffres

Tafell o Fara Gwenith Cyflawn

Halen a Phupur

Powdr Umami Halen Môn (opsiynnol)

Dull;

  1. Rhowch ddŵr i ferwi mewn sosban fach gyda phinsiad o halen.
  2. Cynheswch badell ffrio ar wres canolig a ffriwch y madarch mewn llwy de o fenyn. Ar ôl munud, ychwanegwch y garlleg a’r perlysiau a coginiwch popeth am 3 – 4 mound. Ychwanegwch halen a phupur fel bo’r angen neu ddefnyddiwch bowdr umami Halen Môn.
  3. Tra bod y madarch yn coginio, potsiwch eich wy am ryw 3 – 4 munud. Cliciwch yma i weld clip Jamie Oliver ar sut i botsio wy.
  4. Tostwich y bara ac ychwanegu menyn.
  5. Rhowch y madarch ar ben y tost ac yna yr wy – craciwch ychydig o bupur du neu ychydig  mwy o’r powdr umami ar y cyfan.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s