Mae llysiau gwyrdd yn llawn maeth ac yn rhan bwysig iawn o’ch diet. Felly dyma roi salad yn llawn llysiau gwyrdd at ei gilydd i chi!!
Mae’r cynhwysion isod yn gwneud digon ar gyfer 4 platiad o salad. Dwi’n coginio’r isod i gyd ar brynhawn dydd Sul a chadw’r cynhwysion yn yr oergell ar gyfer cinio am 4 diwrnod.
Cynhwysion:
400g o bys
200g o halloumi wedi ei dorri’n stribedi tenau
1 broccoli cyfan
1 letysen Romain wedi ei thorri’n stribedi tenau
Cres
3 llwy fwrdd o olew olewydd
Sudd 1 lemwn
Pupur
Dull:
- Cynheswch un llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell. Rhowch ychydig o bupur ar y stribedi Halloumi a’i rhoi yn y badell unwaith mae’r olew yn boeth ychwanegwch yr Halloumi. Pan mae’r stribedi wedi brownio’r ddwy ochr tynnwch nhw o’r badell a’u gadael i oeri.
- Wedi i chi goginio’r halloumi coginiwch y llysiau. Rhowch y pys i goginio mewn dŵr berwedig am 10 munud, a stemiwch y broccoli yn gyfan am 4 munud. Gadewch i bopeth oeri.
- Tra mae popeth yn oeri rhowch y dressing at ei gilydd; cymysgwch un llwy fwrdd o olew olewydd a sudd un lemwn.
- Pan mae’r broccoli wedi oeri, torrwch yn ddarnau bach.
- Gweinwch y cynhwysion i gyd efo’i gilydd mewn powlen gyda digonedd o’r dressing a mwynhewch!