Mae byrgyrs mor hawdd i’w paratoi does ‘na ddim rheswm i chi brynu rhai siop. Mae’r rysáit yma’n gwneud 4 byrygyr.
Cynhwysion:
Pwys o mins cig eidion.
½ nionyn coch
½ llwy fwrdd o bupur cayenne
1 llwy fwrdd o paprika
2 llwy fwrdd o puree tomato
¼ llwy fwrdd o bowdwr mwstard
¼ llwy fwrdd o bupur
1 ŵy
Pinsiad o halen
Mae fyny i chi os ydych chi eisiau gweini’r byrgyr mewn rôl neu dysen felys (fel dwi wedi defnyddio yn y llun). Os wyt ti’n defnyddio tysen felys, sleisiwch y dysen yn ddarnau eithaf trwchus a’i rhostio yn y popty ar wres o 160 am 20 munud.
Dull:
- Blendiwch y nionyn coch mewn prosesydd bwyd. Gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i dorri’n fan.
- Cymysgwch y mins, nionyn, pupur cayenne, paprika, puree tomato, powdwr mwstard a’r halen a’r pupur mewn powlen fawr.
- Cnociwch yr ŵy efo fforc a’i arllwys at y gymysgedd. Cymysgwch y cynhwysion i gyd unwaith eto i wneud yn siŵr bod popeth wedi’i gymysgu’n iawn.
- Siapiwch y cymysgedd i 4 byrgyr.
- Dwi’n coginio’r byrgyr mewn griddle am ryw bum munud pob ochr. Mae amser y coginio’n ddibynnol ar ba mor drwchus ydi’r byrgyr felly gwnewch yn siŵr eu bod wedi coginio trwyddynt cyn gweini.