Pwy arall sy’n hoffi toes ‘cookie’?! Roeddwn yn awyddus i droi rhywbeth sy’n cael ei weld fel “guilty pleasure” mewn i snac iach. Gallwch roi unrhyw lenwad yn y toes. Mae rhain yn berffaith â choffi du neu wydriad o laeth oer!
Bydd angen prosesydd bwyd arnoch.
Cynhwysion;
Digon i wneud rhwng 12 a 15 pelen.
140g o geirch (oats)
100g almonds
Llwy fwrdd o bowdr llaeth (dewisiol)
8 datys medjool heb eu cerrig (Medjool Dates)
50ml i 80ml o ddŵr berwedig
Darnau bach o siocled tywyll 70% – unai ‘chips’ neu bar o siocled wedi ei dorri’n ddarnau bach.
Dull;
- Malwch y ceirch a’r cnau mewn prosesydd bwyd tan eu bod yn bowdr.
- Ychwanegwch y datys i’r prosesydd a chymysgwch popeth yn dda.
- Ychwanegwch y dŵr poeth; ychydig ar y tro tan bod toes yn dechrau ffurfio.
- Trosglwyddwch y cymysgedd i bowlen fawr cyn cymysgu’r siocled mewn i’r cymysgedd.
- Gorchuddiwch y bowlen gyda chlingffilm a’i roi yn yr oergell am tua 60 munud – bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws siapio’r toes yn beli bach.
Syniadau gwahanol i lenwi’r toes:
- Ffrwythau sych megis raisins, aeron goji, llugaeron neu afalau sych
- Coconyt mâl
- Cnau Cyll
- Fanila
- Powdr Cacao Amrwd