Dwi’n aml yn cael y salad yma i ginio, byddaf yn ei baratoi ar ddydd Sul ac mae’n cadw yn yr oergell am ryw dri diwrnod.
Cynhwysion:
180ml o olew olewydd
1 llwy fwrdd o fêl
1 llwy fwrdd o wholegrain mwstard
Pinsiad o halen
Pinsiad o bupur
1 butternut squash wedi ei blicio a’i dorri’n ddarnau bach
1 dysen felys wedi ei thorri a’i phlicio’n ddarnau bach
1 foronen (reit fawr) wedi ei phlicio a’i thorri’n ddarnau bach
1 pupur coch wedi ei dorri’n ddarnau bach
1 nionyn coch wedi ei dorri’n ddarnau bach
Cwpan fach o quinoa
Llond llaw o pine nuts
Llond llaw o hadau blodyn yr haul (sunflower seeds)
Llwy fwrdd Soy Sauce/Tamarind
Opsiynol – brest twrci
Dull:
- Cynheswch y popty i 200 gradd.
- Rhowch y frest twrci yn y popty i goginio am 30 munud, neu tan mae’r cig wedi coginio trwyddo. Pan yn barod torrwch yn ddarnau.
- Cymysgwch y mêl, olew olewydd a’r wholegrain mwstard mewn powlen fawr.
- Rhowch y butternut squash, y dysen felys a’r foronen yn y cymysgedd i socian am ryw funud. Wedi munud tynnwch nhw allan o’r cymysgedd a’u rhoi ar fwrdd pobi cyn eu rhoi yn y popty am ryw 20munud.
- Tra mae’r uchod yn coginio rhowch y pupur coch a’r nionyn coch yn y cymysgedd i socian.
- Wedi i’r butternut squash, y dysen felys a’r foronen goginio am 20 munud ychwanegwch y pupur coch a’r nionyn coch atyn nhw yn y popty a’u coginio am 10 munud arall.
- Tra mae’r llysiau yn y popty coginiwch y quiona. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y paced.
- Cynheswch badell ac ychwanegwch y pine nuts a’r hadau blodyn yr haul cyn ychwanegu llwy fwrdd o Soy Sauce neu Damarind a’u tostio am ryw funud.
- Pan mae’r quinoa yn barod golchwch dan ddŵr oer.
- Cymysgwch popeth mewn powlen a mwynhewch.