Flatbread Cig Oen

Mae hi yn syniad da i chi wneud eich flatbreads eich hunain, gyda chydig o ymarfer mae’n dod yn haws! Gallwch arbrofi ychydif efo’r rysait trwy ychwanegu sbeisys neu berlysiau gwahanol fel cumin, caraway neu goriander, gallwch hefyd ddefnyddio blawd gwahanol fel rye neu spelt. Fwy na thebyg y bydd gennych chi ychydig o’r cymysgedd cig oen dros ben. Gallwch ddefnyddio’r gweddill i wneud meatballs a’i goginio mewn “tagine” Morocaidd, neu gallwch wneud byrgyr cig oen.

Mae’r rysait yma’n gwneud digon ar gyfer 4 person.

Cynhwysion;

Toes Flatbread –

Blawd Gwenith Cyflawn (gellir ddefnyddio blawd spelt, rye neu buckwheat) 200g

Pinsiad o halen

Llwy de o bowdr pobi

Llwy de o olew olewydd

Llwy bwdin o iogwrt naturiol

Tua 80ml o Ddŵr

Cymysgedd Cig Oen –

500g o fins Cig Oen

1 ewyn o Arlleg wedi’i gratio’n fan.

Sest Lemon cyfan

Llwy fwrdd o Bersli ffres wedi’i dorri

Llwy fwrdd o Goriandr ffres wedi’i dorri

Llwy de o Oregano sych

Llwy de o Chilli sych

Llw de o bowdr Cumin

Llwy de o bowdr Coriandr

Hanner lwy de o Garam Masala

Halen a pupur

I weini –

Sudd Lemon

Winiwn coch – wedi ei sleisio’n dennau a’i farineiddio mewn pinsiad o halen a sblash o finegr neu sudd lemwn am awr.

Llond llaw o Bersli / Coriandr Ffres

Iogwrt Naturiol (Llaeth y Llan)

Saws Tsili

Dull;

  1. I wneud y flatbreads cymysgwch y cynhwysion sych i gyd cyn ychwanegu’r iogwrt a’r olew. Cymysgwch yn dda. Yna ychwanegwch y dŵr yn raddol er mwyn creu toes ystwyth sydd ddim yn crymblo ac ddim yn rhy wlyb – efallai na fydd angen defnyddio’r dŵr i gyd.
  2. Rhannwch y toes mewn i bedwar cyn eu rholio.  Rholiwch nhw mor brysur a darn £1.
  3. Cymysgwch holl gynhwysion y cymysgedd cig oen.
  4. Taenwch y cymysgedd cig oen ar y flatbread.  Bydd angen i’r cymysgedd ar y flatbread fod mor drwchys a darn £1, a pheidiwch a’i daenu reit i’r ymyl.
  5. Cynheswch y gril i wres poeth a rhowch badell ffrio ar wres uchel.
  6. Pan mae’r badell wedi cynhesu ychwanegwch un o’r flatbreads a’i adael i goginio am am rhyw 30 eiliad – dim ond coginio’r gwaelod ydyn ni ar hyn o bryd.
  7. Rhowch y badell ffrio dan y  gril am ryw 5 munud. Gall fod yn barod cyn y 5 munud felly cadwch lygaid arno.
  8. Gwnewch yr un peth gyda gweddill y flatbreads. Mae’n well bwyta’r flatbreads yn syth.
  9. Gweinwch gyda’r winiwn coch, y persli a sblash o sudd lemon.

DSC_0232[1]

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s