Wythnos diwethaf bu Llawn Daioni ar Prynhawn Da yn paratoi prydau iach yn rhad. Felly dyma rannu’r ryseitiau efo chi. Mae’r ryseitiau i gyd yn syml iawn i’w paratoi.
Brecwast ar gyfer 4 person
Ceirch wedi ei socian
Mae’r brecwast syml yma’n costio 37c y person.
Cynhwysion;
600ml o lefrith cyflawn organig
300g o geirch
4 llwy de o sinamon
4 llwy fwrdd o fêl
2 afal
Dull;
- Rhannwch y ceirch rhwng 4 jar, ac yna arllwyswch 150ml o lefrith i bob jar.
- Ychwanegwch lwy de o sinamon i bob jar
- Ychwanegwch lwy fwrdd o fêl i bob jar
- Cymysgwch y cynhwysion i gyd
- Rhowch y jariau yn yr oergell dros nos
- Yn y bore gratiwch hanner afal i bob jar
Does dim rhaid i chi ddefnyddio afal, gallwch ychwanegu unrhyw ffrwyth neu gnau. Os nad ydych chi’n hoffi’r syniad o fwyta ceirch yn oer gallwch ei gynhesu yn y microwave!
Cinio ar gyfer 4 person
Salad nwdls, llysiau a chyw iâr mewn letys gyda saws Satay
Mae’r salad yma’n cadw yn yr oergell am ychydig ddyddiau felly mae’n bryd da i’w baratoi o flaen llaw ar gyfer cinio. Mae’n costio 91c y person.
Cynhywsion;
Y salad;
1 foronen
4 spring onion
1/2 ciwcymbyr
1 tsili coch
olew olewydd
Llond llaw o goriander
2 nyth o nwdls wholwheat
2 lwy fwrdd o damarind neu soy sauce
2 thigh cyw iâr
Halen a phupur
Sudd ¾ leim
Letus little gem
Saws Satay;
2 lwy fwrdd o saws hoi sin
2 lwy fwrdd o peanut butter
2 lwy fwrdd o ddŵr berwedig
Sudd ¼ leim
Dull;
- Rhowch y cyw iâr yn y popty ar wres o 180 am ryw 45 munud (neu tan mae’r cyw iâr wedi coginio trwyddo). Ychwanegwch ddigon o olew olewydd a halen a phupur
- Coginiwch y nwdls yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y paced
- Torrwch y foronen, ciwcymbr, tsili coch, spring onion yn stribedi tenau, a thorrwch y coriander yn ddarnau man.
- Pan mae’r nwdls yn barod arllwyswch ddŵr oer drostyn nhw a’u torri’n fân.
- Pan mae’r nwdls wedi oeri, cymysgwch nhw efo’r foronen, ciwcymbyr a stili coch
- Unwaith mae’r cyw iâr yn barod, tynnwch y croen a’u torri’n ddarnau mân. Pan maen nhw wedi oeri ychwanegwch nhw at y salad.
- Ychwanegwch y tamarin/soy sauce a sudd ¾ leim a chymysgu.
- Torrwch y dail oddi ar y letus Little Gem a gweinwch y salad yn y dail.
Y Saws;
- Cymysgwch y Peanut Butter a’r Hoisin a’r dŵr. Os hoffech chi saws fwy gwlyb, ychwanegwch fwy o ddŵr.
Swper ar gyfer 4 person
Fusilli gyda Brocoli, Tsili, Garlleg a Chickpeas
Mae yna ddigonedd o arlleg gwyllt yn tyfu yn ein coedwigoedd amser yma’r flwyddyn – ewch allan i gasglu peth i wneud y pryd yma’n rhatach fyth. Mae’r pryd yn costio 86c y person.
Cynhwysion;
Llwy fwrdd o olew olewydd
Sest a sudd 1 lemwn
70g o bersli ffres wedi ei dorri’n fan
1 tsili coch wedi’i sleisio’n fan
500g o fusilli brown (1 pecyn)
1 brocoli wedi ei dorri’n ddarnau bach
3 ewyn o arlleg wedi ei sleisio’n fan
250g o cherry tomatos wedi’i hanneru
Tin o chickpeas heb y sudd
Dull;
- Coginiwch y pasta mewn dŵr berwedig gyda digon o halen am ryw 10 munud.
- Ar ôl 5 munud rhowch y brocoli mewn efo’r pasta.
- Cynheswch badell fawr (digon mawr i ddal y pasta a’r brocoli) ac ychwanegwch olew olewydd a ffrio’r garlleg a’r tsili am ryw funud.
- Ychwanegwch y chickpeas a’r tomatos i’r badell a’u coginio am tua 2 funud gyda’r tsili a’r garlleg.
- Pan mae’r pasta yn barod draeniwch mewn colandr ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cwpan o’r dŵr i’w ddefnyddio nes ymlaen.
- Ychwanegwch y pasta a’r brocoli yn syth i’r badell.
- Ychwanegwch y persli i’r badell a chymysgwch popeth.
- Ychwanegwch y dŵr oeddech chi wedi ei gadw i’r badell, mae hyn yn ychwanegu blas ac yn sicrhau nad yw’r pasta’n rhy sych.
- Ychwanegwch halen a phupur fel bo’r angen a’i fwyta’n syth.

Hawlfraint: Llawn Daioni