Does dim sbigoglys (spinach) mewn tabbouleh traddodiadol; dim ond llwyth o berlysiau ffres – ond dwi wedi ychwanegu sbigoglys er mwyn ychwanegu mwy o faeth i’r pryd. Mae’n bosib newid y bulgur wheat am quinoa ond yn bersonol mae’n well gen i bulgur wheat.
Mae’r rysáit yma’n gwneud digon i ddau berson.
Cynhwysion;
100g o bulgar wheat
1 tomato wedi’i dorri’n fân
Llond llaw o goriander
Llond llaw o fintys
Llond llaw hael iawn o bersli
Llond llaw o sbigoglys
Croen a sudd un lemon
Pinsiad hael o sumac
2 lwy de Olew Olewydd Extra Virgin
Halen a phupur
Dull;
- Coginio’r bulgur wheat yn ôl cyfarwyddiadau’r paced cyn ei ddraenio a’i oeri.
- Cymysgwch y cynhwysion cyn ychwanegu’r olew, sudd a chroen y lemon, pinsiad o sumac a halen a phupur i flas.
- Mwynhewch hwn gyda flatbread cartref a hwmws.