Mae Galettes yn boblogaidd yn Llydaw, maen nhw union fel crepe, oni bai am y blawd. Blawd buckwheat sydd yn cael ei ddefnyddio mewn Galette, sydd yn golygu bod dim gwenith na glwten ynddyn nhw.
Mae’r isod yn ddigon o gymysgedd ar gyfer gwneud rhyw 5 Galette.
Cynhwysion;
4 wŷ
200ml o lefrith
100g o flawd buckwheat
Pinsiad o halen
Dull;
- Whisgiwch yr wyau, llefrith a’r blawd mewn powlen ac ychwanegwch yr halen.
- Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrïo fawr ar wres canolig.
- Tolltwch ryw 50ml o’r cymysgedd mewn i’r badell a thaenwch y gymysgedd dros wyneb y badell. Unwaith mae’r galette yn dechrau brownio trowch hi drosodd a choginio’r ochr arall tan mae’n brownio (rhyw funud neu ddwy bob ochr).
Cewch chi ddewis beth hoffech chi ar eich galette, dwi’n hoffi bacwn ac wŷ, neu gennin, bacwn a chaws.
Mae’r gymysgedd yn cadw yn yr oergell am dri diwrnod.