Dwi wastad yn cadw aeron wedi’u rhewi yn y ffrisyr. Maen nhw’n rhatach i’w prynu yn y siop ac mae’r blas yn grêt. Dwi’n cael hwn i frecwast neu ar ôl gwaith fel snac. Dwi hefyd yn gwneud un mewn jar fach i gael efo fy nghinio. Mae yna lwyth o siwgr mewn iogwrt low fat sy’n cael eu gwerthu fel yr opsiwn “iach” felly mae’n well gwneud un eich hun. Mae hefyd yn bosib i newid y ffrwythau i fynd gyda’r tymhorau neu’r hyn ‘dachi awydd.
Cynhwysion; (digon i 1)
3-4 Tbsb o Iogwrt Naturiol – Dwi’n hoff iawn o iogwrt natriol Llaeth y Llan
1 tbsb o Aeron Cymysg (blwberis, mafon, ceirios ayyb)
1 tsb o hadau cymysg / cnau (pwmpen, chia, blodyn yr haul, almon)
1 tsp o fêl.
Dull;
- Rhowch y rhan fwyaf o’r ffrwyth mewn powlen addas cyn ei roi yn y meicrowef am 1 munud er mwyn creu compot.
- Ar ôl i’r ffrwythau oeri ychydig cymysgwch gyda’r iogwrt.
- Tolltwch gweddill y ffrwythau ar ben y iogwrt ynghyd â’r hadau/cnau a’r mêl.