Mae’r cyri yma’n flasus ac yn hawdd iawn i’w wneud! Cyw iâr fydda i’n ddefnyddio, ond mae’n gweithio’n dda hefo chickpeas yn unig os ydych chi’n llysieuwr/dim ffansi cig.
Cynhwysion;
1 nionyn wedi ei dorri’n fân
1 tsili coch wedi ei dorri’n fân
2 ewin garlleg wedi eu torri’n fân
darn bach o sinsir (tua 2 cm) wedi’i gratio
400 ml o stoc cyw iâr
1 llwy de o fêl
1 llwy de o turmeric
1 llwy de o bowdr cyri
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
1 tin 400g o chickpeas (heb y sudd)
2 goes cyw iâr (opsiynol)
Llond llaw o sbigoglys/spinach
Halen a Phupur
Dull;
- Os am ychwanegu cyw iâr ffriwch y cyw iâr mewn ychydig o fenyn tan yn frown. Wedi i’r cyw iâr frownio tynnwch allan o’r sosban.
- Gadewch y sosban ar y gwres a ffriwch y nionyn, garlleg tsili a sinsir am funud.
- Ychwanegwch y powdr cyri, mêl, turmeric a’r piwrî tomato a’i ffrio am funud.
- Arllwyswch 400ml o stoc cyw iâr i’r sosban. Gallwch ychwanegu llai neu fwy o stoc, dibynnu pa mor drwchus ydych chi’n hoffi saws y cyri.
- Ychwanegwch y chickpeas.
- Rhowch y cyw iâr yn ôl yn sosban efo’r saws.
- Coginiwch ar wres isel am tua hanner awr. Ychwanegwch halen a phupur os oes angen.
- Ychwanegwch lond llaw o sbigoglys tua 5 munud cyn gweini.
Cofiwch wneud yn siŵr bod y cyw iâr wedi ei goginio drwyddo cyn ei weini! Gallwch ei weini â reis brown neu reis blodfresych.